Skip to main content

THIS IS THE TEST SITE

Rydym bellach yn gweithio o gartref, oherwydd y coronafeirws. Byddwn yn parhau i ychwanegu mwy o enwau i'r Rhestr, i lanhau'r data, ac i ymateb i ymholiadau. Fodd bynnag, ni fyddwn yn trefnu sgyrsiau na gweithdai nes bod y feirws wedi lledu.

   

Adnodd arloesol sy’n cynnwys cannoedd ar filoedd o enwau lleoedd a gasglwyd o fapiau hanesyddol a ffynonellau eraill yw’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru. Mae’n cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar ddefnydd tir, archaeoleg a hanes Cymru.

  • I chwilio am enw lle penodol, defnyddiwch y blwch Chwilio ar ben y dudalen hon.

  • I chwilio am yr holl enwau lleoedd mewn lleoliad penodol, dewiswch Map ac yna tremiwch, chwyddwch neu defnyddiwch yr arf Chwilio Map i ganoli’r map ar leoliad neu god post.

Gallwch chi helpu i wella’r rhestr hefyd drwy ddefnyddio ein system sylwadau i ychwanegu gwybodaeth newydd.

Erthyglau diweddar gan ein Blog