Skip to main content

Glywsoch chi am brosiect Cymru 1900? Roedd yn brosiect torfoli i drawsysgrifio'r enwau lleoedd ar fapiau ail argraffiad yr Arolwg Ordnans yng Nghymru. Wrth i ni lansio'r Rhestr, cawsom ychydig dros 100,000 o enwau oddi wrth Cymru1900, a mawr yw ein diolch iddynt am gyfrannu mor hael ac mor fawr. Roedd y prosiect yn gymaint o lwyddiant iddo gael ei ymestyn allan at weddill Prydain, gan droi'n GB1900. Cyn i'r prosiect orffen, roedd y gwirfoddolwyr wedi trawsysgrifio dros bum miliwn o enwau lleoedd. 

Wele uchod ran o Eilean Leòdhais yn Ynysoedd Heledd, yr Alban. Fel mae'r gwaith o lanhau ein data'n mynd yn ei flaen, sylweddolwyd bod ambell enw'n ymddangos ar fap 1900 nas cynhwyswyd mohono yn y Rhestr. Mae'r broblem yn arbennig o amlwg ym Môn a Sir Gaernarfon. Penderfynwyd felly i fynd yn ôl at GB1900 a chael data newydd. Maent yn rhannu popeth trwy fynediad agored, felly diolch unwaith eto i dîm GB1900 am eich haelioni a'ch gwaith campus! Rydym wedi tynnu'r data o Loegr a'r Alban allan, ac wrthi'n cael gwared ar yr enwau sydd gennym yn barod. Byddwn yn uwchlwytho'r enwau newydd cyn gynted ag y bo modd.

Ymddiheuriadau am y tawelwch llethol sydd wedi disgyn dros y blog hwn yn ddiweddar, mae’na reswm dilys amdano! Fe gofiwch i ni dderbyn gweddill data Prosiect Cynefin oddi wrth y Llyfrgell Genedlaethol ychydig cyn y Nadolig, ac ers hynny, mae James wedi bod yn mynd trwyddynt a’u glanhau er mwyn eu huwchlwytho i’r Rhestr. Golygai hyn fynd trwy dros 900,000 o gofnodion, a thynnu allan pob un nad oedd yn enw go iawn, megis ‘cae’ neu ‘tŷ a gardd’. Ar ôl gwneud hyn, mae 517,463 o enwau’n weddill. Maent yn cynnwys llawer o enwau Cymraeg, Saesneg neu gymysg, a rhai hynod yn eu plith, fel Cae Dungeon yng Nglasgwm, Sir Faesyfed. Pam bod daeargell ym mhlwyf gwledig tybed? Ceir hefyd yr enw Maes y Droell yn Llanarmon yn Iâl, Sir Ddinbych, a gafodd ei enw oherwydd i fenyw gael ei lladd yno gyda throell, yn ôl traddodiad lleol.

Byddai llawer o’r bobl a oedd yn gyfrifol am gasglu’r wybodaeth ar gyfer y degwm yn aml yn ysgrifennu ‘ditto’ yn lle enwau er mwyn arbed amser. Yn ogystal â thynnu allan y cofnodion heb enwau, mae James wedi bod yn tynnu’r dittos allan, a’u cad war wahân. Ychydig dros ugain mil ohonynt sydd. Mae pob cofnod yn dod gyda dolen at yr allwedd ddegwm gwreiddiol, felly bydd hi’n rhwydd mynd trwyddynt a rhoi’r enwau go iawn yn lle’r dittos. Bwriedir gwneud hyn ar ôl uwchlwytho’r hanner miliwn enwau cyntaf.

Rydym yn gobeithio uwchlwytho’r enwau hyn i’r Rhestr dydd Llun, a byddwn yn cyhoeddi’r newyddion ar y blog hwn ac ar ein cyfrif Trydar @RC_EnwauLleoedd, felly cadwch lygad allan!

Yn cychwyn heddiw, bydd dwy intern o'r Adran Hanes a Hanes Cymru'n gweithio ar y Rhestr am gyfanswm o 160 awr. Bydd Jackie Jarocki a Karolina Slizewska, sy'n fyfyrwragedd M.A., yn mewnbynnu enwau o The Place Names of Pembrokeshire gan B.G. Charles, ac yn sicrhau bod yr enwau sydd gennym eisoes yn Sir Benfro wedi'u trawsysgrifio'n iawn. Byddant hefyd yn gyfrifol am newid lliw'r pwyntiau sy'n marcio'r enwau yn y sir, fel sydd eisoes ar droed yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ogystal â hyn, rydym yn dal i weithio trwy'r Parochialia, ac rydym wedi derbyn nifer o enwau o blwyf Llangynfelyn yng Ngheredigion, a gasglwyd oddi wrth y cyhoedd yn ystod Diwrnod Dathlu Cymuned Llangynfelyn a gynhaliwyd dydd Sadwrn diwethaf.

Cawsom anrheg wych iawn oddi wrth y Llyfrgell Genedlaethol yr wythnos ddiwethaf - gweddill data Cynefin! Bydd y sawl yn eich plith sydd wedi clywed James yn siarad am y Rhestr wedi clywed y byddai'r data yn ein cyrraedd 'yn y dyfodol agos', ac mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod bellach yn byw yn y dyfodol. 

Derbyniasom yn agos at 900,000 o ddarnau o ddata oddi wrth dîm y Llyfrgell, ac rydym wrthi'n eu glanhau yn y gobaith o'u huwchlwytho cyn y Nadolig.  Mae oddeutu 200,00 o enwau o brosiect cynefin yn y Rhestr yn barod, a bydd y rhain yn cael eu glanhau a'u gwella yn yr un modd a'r data newydd, er mwyn sicrhau ein bod yn cael gwared â'r holl dittos a'r 'house and garden's unwaith ac am byth. Ar ôl y gwaith hwn, rydym yn amcangyfrif y bydd tua miliwn o enwau o bob cwr o Gymru wedi'u diogelu yn y Rhestr. Hoffem ddiolch i staff y Llyfrgell Genedlaethol, a phawb a wirfoddolodd ar brosiect Cynefin, am eu gwaith, ac am rannu'r enwau gyda ni fel y byddant yn cael eu diogelu am byth, a'u defnyddio gan y cyhoedd a'r awdurdodau, yn swyddogol ac yn answyddogol.

Nadolig llawen i chi gyd.