Skip to main content

Cymorth

Sut i ddefnyddio a chwilio drwy’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol

 

 

 

Chwiliad Cyflym am gofnod Enw Lle – teipiwch eich chwiliad yn y blwch chwilio yn y gornel dde uchaf a chliciwch Chwilio: bydd hyn yn chwilio am y testun a deipiwyd gennych yn holl gofnodion ein cronfa ddata.

 

 

 

 

Chwiliad Uwch am gofnod Enw Lle – cliciwch Chwilio yn y brif ddewislen, yna dewiswch Chwiliad Uwch. Mae Chwiliad Uwch yn eich galluogi i chwilio gan ddefnyddio gwahanol hidlyddion, gan gynnwys Sir, Plwyf, Ffynhonnell, Blwyddyn (O & Hyd), Math o Le ac ati.

 

 

 

Y Swyddogaeth Lleolwch Fi – i ffocysu’r map ar eich lleoliad presennol, cliciwch y botwm Lleolwch Fi.

 

 

 

Map Sgrin Lawn – i helaethu’r map i orchuddio’r sgrin gyfan, cliciwch y botwm map sgrin lawn – cliciwch eto i ddychwelyd i’r modd gwylio arferol.

 

 

 

  

 

Newid rhwng haenau map Modern a Hanesyddol – drwy ddefnyddio’r botwm dewis haen yng nghornel dde uchaf y ffenestr fap gellir toglo rhwng mapiau modern a hanesyddol yr Arolwg Ordnans.

 

 

 

    

 

I weld cofnod a nodir ar y map – dewiswch y marciwr i arddangos ei enw, yna cliciwch ar y testun glas i fynd at y cofnod llawn.

 

 

 

 

 

Defnyddio’r Eirfa – cliciwch Cymorth ac yna dewiswch Geirfa o’r gwymplen. Mae’r Eirfa yn rhestru tua 900 o elfennau a geir yn gyffredin mewn enwau lleoedd, y cyfieithiad Saesneg o bob elfen, a dwy enghraifft o enwau lleoedd sy’n cynnwys pob elfen.

 

 

 

   

 

Mae pob elfen enw lle hefyd yn hypergyswllt a fydd yn chwilio’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol am unrhyw gofnodion lle mae’r elfen dan sylw i’w chael. Pan ddewiswch elfen, bydd y wefan yn eich cysylltu â thudalen Canlyniadau Chwiliad, lle gallwch weld y cofnodion perthnasol fel rhestr neu fap dosbarthiad, neu ddefnyddio’r tab Offer i lwytho canlyniadau’r chwiliad i lawr fel ffeil .csv.

 

Defnyddio data’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru ar gyfer cymwysiadau allanol – byddwch cystal â chysylltu â ni os hoffech ddefnyddio’r data hyn ar gyfer prosiectau allanol.